Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (126) |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 2 a 10 a 7 ac 11 eu grwpio.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 2 i 12 a 14 i 15. Cafodd cwestiynau 3 a 4 eu grwpio. Tynnwyd cwestiynau 1 a 13 yn ôl.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.57
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog Iechyd ddatganiad brys ar amseroedd ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?
Datganiad gan y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd fod Darren Millar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.91, caiff Darren Millar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru).
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM5217 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mick Antoniw (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lleKen Skates (Llafur Cymru).
NDM5218 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) Christine Chapman (Llafur Cymru) a Jenny Rathbone (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Ann Jones (Llafur Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), a;
(ii) Christine Chapman (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
NDM5219 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) Ann Jones (Llafur Cymru), Keith Davies (Llafur Cymru) a David Rees (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lleChristine Chapman (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru) a Julie Morgan (Llafur Cymru), a;
(ii) Ann Jones (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
NDM5220 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sandy Mewies (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lleGwyn Price (Llafur Cymru).
NDM5221 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Julie Morgan (Llafur Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle David Rees (Llafur Cymru) a Keith Davies (Llafur Cymru).
NDM5222 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Ken Skates (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mick Antoniw (Llafur Cymru).
Cafodd y cynigion eu grwpio a derbyniwyd y cynnigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5211 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru;
2. Yn nodi'r effaith y mae trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael ar ymdrechion i fynd i'r afael ag amodau tywydd garw;
3. Yn credu bod yn rhaid i strategaeth ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol wrth ymdrin â'r heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd arnynt gan dywydd garw.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5212 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd;
2. Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn;
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni; a
4. Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad ynni niwclear ar Ynys Môn gael ei ategu gan gymorth pellach i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
6 |
5 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5213 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu’n ddirfawr at anghydraddoldeb ar sail rhyw a'i fwlch cyflog parhaol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â stereoteipio o ran rhyw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.57
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.59
NDM5210 Eluned Parrott (Canol De Cymru):
Cefnu ar ein Brodyr - Asesu cefnogaeth i Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru.
Dadl am Bersonél Arfog ac Argyfwng yng Nghymru sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma a'r ffyrdd y gall Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Sector Gwirfoddol helpu.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2013